Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deisebau


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Mawrth, 11 Mehefin 2019

Amser: 09. - 10.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
5476


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Janet Finch-Saunders AC (Cadeirydd)

Mike Hedges AC

Neil McEvoy AC

Leanne Wood AC

Tystion:

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Ross Davies (Dirprwy Glerc)

Kathryn Thomas (Dirprwy Glerc)

Samiwel Davies (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

</AI1>

<AI2>

2       Deisebau newydd

</AI2>

<AI3>

2.1   P-05-880 Mae Cymru yn prysur golli ei henw da o ran cerddoriaeth, a’i threftadaeth

Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae ei ferch yn aelod o nifer o gorau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         aros am gyhoeddiad astudiaeth ddichonoldeb Llywodraeth Cymru ar yr opsiynau ar gyfer darparu gwasanaethau cerddoriaeth a Chynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth, ac

·         ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r Cyngor Addysg Cerddoriaeth i ofyn am eu barn ynghylch y materion a godwyd gan y ddeiseb a'r ddarpariaeth bresennol ar gyfer addysg cerddoriaeth a gwasanaethau addysg cerddoriaeth.

 

</AI3>

<AI4>

2.2   P-05-881 Trwsio ein system gynllunio

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gynnwys y materion a godwyd yn y ddeiseb mewn sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynglŷn ag ystod o ddeisebau sy'n ymwneud â chynllunio, a drefnwyd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ar 25 Mehefin.

</AI4>

<AI5>

2.3   P-05-883 Wythnos Genedlaethol Hanes Cymru

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am farn y deisebydd o ran yr ymateb a roddwyd gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ynghylch y ddeiseb.

</AI5>

<AI6>

3       Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

</AI6>

<AI7>

3.1   P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Ystyriodd y Pwyllgor ragor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru a sylwadau byr gan y deisebydd, a chytunodd i aros am gyhoeddiad gwybodaeth yn deillio o'r arolwg ar gyflwr ysgolion a’r canllawiau newydd ar reoli asbestos mewn ysgolion, a chynnig cyfle i'r deisebydd ymateb yn fanylach, cyn ystyried a yw'n dymuno cymryd unrhyw gamau pellach ynghylch y ddeiseb.

</AI7>

<AI8>

3.2   P-05-788 Cael gwared ar agwedd orfodol Bagloriaeth Cymru

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan CBAC a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil dileu'r ymarfer penodol y cyfeiriwyd ato yn y ddeiseb, y gwaith craffu ar Fagloriaeth Cymru a wnaed yn ddiweddar iawn gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ac ymrwymiad y Gweinidog i gyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru ar y Fagloriaeth a’r modd y caiff ei haddysgu.

</AI8>

<AI9>

3.3   P-05-834 Dylai Pob Ysgol Fod yn Ysgol Cyfrwng Cymraeg ac Addysgu Hanes Cymru.

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni ymchwiliad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i Addysgu Hanes a Diwylliant Cymru, ac i roi rhagor o wybodaeth i'r deisebydd o ran sut y gall gyfrannu at hyn.

</AI9>

<AI10>

3.4   P-05-862 Mynd i’r afael â bwlio mewn ysgolion

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Lywodraeth Cymru a’r deisebydd a chytunodd i:

·         aros am gyhoeddiad canllawiau a phecyn gwrth-fwlio diwygiedig yn hwyrach yn y flwyddyn a’i rannu â’r deisebydd ar gyfer sylwadau;

·         gofyn am farn Comisiynydd Plant Cymru, elusennau a chynrychiolwyr ysgolion ynghylch digonolrwydd y polisi a’r rheoleiddio presennol mewn perthynas â bwlio mewn ysgolion, ac

·         archwilio ymhellach i sut y gall y Pwyllgor ymgysylltu â Senedd Ieuenctid Cymru ynglŷn â’r mater hwn.

</AI10>

<AI11>

3.5   P-05-797 Sicrhau mynediad at y feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o frys

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Lywodraeth Cymru, yr Ymddiriedolaeth Ffibrosis Cystig a'r deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu at Vertex Pharmaceuticals i'w annog i gyflwyno tystiolaeth i Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan i’w gwerthuso fel mater o flaenoriaeth.

</AI11>

<AI12>

3.6   P-05-804 Mae angen cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer chwarae!!

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Lywodraeth Cymru a'r deisebydd a chytunodd i ofyn am ragor o wybodaeth am gyfleoedd ar gyfer chwarae a mynediad i fannau chwarae a chyfleusterau chwaraeon i blant a phobl ifanc gan y Gwasanaeth Ymchwil, ac i ysgrifennu at Gomisiynydd Plant Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i holi eu barn am y ddeiseb.

</AI12>

<AI13>

3.7   P-05-825 Diogelu ysgyfaint plant rhag llygredd niweidiol tra maent yn yr ysgol

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach o ran y ddeiseb a chytunodd i aros am gyhoeddiad Cynllun Aer Glân drafft i Gymru yn hwyrach yn 2019 cyn ystyried cymryd camau pellach ynghylch y ddeiseb.

</AI13>

<AI14>

3.8   P-05-831 Rhowch ddiwedd ar yr annhegwch a'r gwahaniaethu yn y cymorth ariannol a roddir i ddioddefwyr sgandal gwaed wedi'i heintio yng Nghymru

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Lywodraeth Cymru a chytunodd i ofyn am farn y deisebwyr am y wybodaeth yn natganiad y Gweinidog ar 6 Mawrth, cyn ystyried cymryd camau pellach ynghylch y ddeiseb.

</AI14>

<AI15>

3.9   P-05-870 Gadewch i ni Sicrhau y Caiff Calon Pob Person Ifanc (10-35 oed) ei Sgrinio

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Lywodraeth Cymru a’r deisebydd a chytunodd i:

·         ysgrifennu at Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU i rannu awgrym y deisebwyr fod tystiolaeth ddiweddar yn fwy ffafriol mewn perthynas â manteision posibl rhaglen sgrinio ar gyfer syndrom marwolaeth y galon sydyn, a gofyn a yw'r Pwyllgor yn bwriadu ailystyried y mater hwn, ac

·         ysgrifennu at British Heart Foundation a British Cardiovascular Society i ofyn am ei farn ynghylch y materion a godwyd yn y ddeiseb, a’r potensial i gynnal rhaglen sgrinio’r boblogaeth ar gyfer cyflyrau ar y galon heb eu darganfod.

</AI15>

<AI16>

3.10 P-05-852 Cyflwyno trwydded i reoli tir ar gyfer saethu adar hela mewn ymgais i roi terfyn ar erlid adar ysglyfaethus

Yng ngoleuni'r wybodaeth a gafwyd gan y Pwyllgor, gan gynnwys yr adolygiad diweddar ynghylch atal ac ymchwilio i droseddau bywyd gwyllt, a’r ffaith bod y Gweinidog wedi gwrthod y cynnig a wnaed yn y ddeiseb, daeth y Pwyllgor i'r casgliad ei bod yn ymddangos nad oes fawr o ddim y gellid ei gyflawni ar yr adeg yma. Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.

</AI16>

<AI17>

3.11 P-05-818 Cyflwyno Cofrestr o Lobïwyr yng Nghymru

Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad a chytunodd i aros am sylwadau pellach gan y deisebwyr ynglŷn â’r wybodaeth a roddwyd cyn ystyried a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach ynghylch y ddeiseb.

</AI17>

<AI18>

3.12 P-05-836 Adroddiadau ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhyweddau

Cytunodd y Pwyllgor i aros am sylwadau pellach gan y deisebydd am y wybodaeth a ddarparodd Lywodraeth Cymru, cyn ystyried a ddylid cymryd camau pellach ynghylch y ddeiseb.

</AI18>

<AI19>

3.13 P-05-838 Cefnogwch y Llwybr Du o ran Ffordd Liniaru’r M4

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-850 Amddiffyn Gwastatir Gwent ac atal traffordd arfaethedig yr M4. Yng ngoleuni'r penderfyniad a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ar 4 Mehefin, a'r gwaith craffu cynhwysfawr a wnaed mewn perthynas â’r mater hwn gan yr Ymchwiliad Cyhoeddus, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oedd unrhyw gamau pellach y gallai eu cymryd yn realistig, a chytunodd i gau'r ddeiseb.

</AI19>

<AI20>

3.14 P-05-850 Amddiffyn Gwastatir Gwent ac atal traffordd arfaethedig yr M4

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-838 Cefnogwch y Llwybr Du o ran Ffordd Liniaru’r M4. Yng ngoleuni'r penderfyniad a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ar 4 Mehefin, y gwaith craffu cynhwysfawr a wnaed mewn perthynas â’r mater hwn gan yr Ymchwiliad Cyhoeddus, a llwyddiant y ddeiseb, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oedd unrhyw gamau pellach y gallai eu cymryd yn realistig, a chytunodd i gau'r ddeiseb.

</AI20>

<AI21>

3.15 P-05-843 Mwy o hawliau trydydd parti mewn apeliadau cynllunio

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Lywodraeth Cymru a’r deisebydd. Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth a chytunodd i godi materion perthnasol yn ystod ei sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â nifer o ddeisebau sy'n gysylltiedig â chynllunio yn ei gyfarfod ar 25 Mehefin.

</AI21>

<AI22>

3.16 P-05-858 Taenellwyr Dŵr i arbed bywydau nid i wneud arian!

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y deisebydd a thrydydd parti a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch yr adolygiad o ofynion diogelwch tân a manylion yr ystyriaeth a roddwyd o ran gwneud ardystiad trydydd parti yn ofynnol ar gyfer gosod systemau llethu tân.

</AI22>

<AI23>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Derbyniwyd y cynnig.

</AI23>

<AI24>

5       Trafod y papur opsiynau: P-05-828 Rhagdybiaeth o blaid ysgolion gwledig

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu i ofyn am safbwyntiau amrywiaeth o sefydliadau ynghylch yr achos o blaid, a’r goblygiadau posibl, pe bai dull apelio ar gyfer cynigion i gau ysgolion yn cael ei gyflwyno, gan gynnwys:

</AI24>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>